I BWY AC I BETH?

unsplash-image-fTd0tFGEpm4.jpg

Sefydlwyd dewin.tech gan ddau Ymgynghorydd busnes: Meinir Lloyd Jones a finnau, Geraint Hughes. Gyda chefndir amrywiol a dylanwad o fewn y sectorau menter a bwyd-amaeth, yn enwedig gennai, mae’r ddau ohonom yn angerddol dros ddatblygu technoleg dewin.tech ym mhob rhan o fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Fel meddylwyr a newidwyr, rydw i a Meinir yn awyddus i gyflwyno technoleg canrif 21 i Gymru a thu hwnt.

Dewch yn ôl mewn 12 mis a dylem allu rhannu gyda chi’r math o sefyllfaoedd y mae ein cwsmeriaid wedi defnyddio’r sensor dewin agor:cau.

Ond, yn y cyfamser bydd rhaid dibynnu ar ymchwil, cynnwys trafodaethau cynnar gyda darpar gwsmeriaid ac ychydig o'n greddf.

Dyma enghreifftiau o'r sectorau a'r math o ddefnydd yr ydym yn disgwyl gweld dewin agor:cau yn ychwanegu gwerth atynt:

  • FFERMIO - Hysbysu ffermwyr pan fydd giât ar agor pan ddylai fod ar gau, gan leihau'r risg y bydd stoc gwerthfawr yn cymysgu.

  • ADEILADU - Rhoi synwyryddion mewn safleoedd adeiladu dros dro i rybuddio pan agorir gwahanol bwyntiau mynediad, megis giatiau neu ddrysau.

  • PRIFFYRDD - Hysbysu pan fydd gorchuddion ‘manholes’ yn cael eu symud yn ddamweiniol neu ar bwrpas.

  • ADEILADAU DIWYDIANNOL CYFFREDINOL - Hysbysu perchnogion pan agorir pwyntiau mynediad amrywiol.

  • CYFLEUSTERAU – Cofnodi data pan agorir caeadau ar gyfer allfeydd gorlifo carthffosiaeth.

  • TWRISTIAETH - Defnyddio synwyryddion i olrhain mynediad i fythynnod gwyliau neu unedau glampio.

  • HAMDDEN - Casglu data ar y defnydd o dyllau golff amrywiol trwy fonitro amlder tynnu pin y faner i mewn ac allan o'r twll.

  • CYFATHREBU - Tracio defnydd o wahanol bwyntiau mynediad i gyfleusterau mewn lleoliadau gwledig.

  • YSWIRIANT - Sicrhau stamp amser ar gyfer gwahanol fathau o ddigwyddiadau i wella cyfradd erlyn ac adfer nwyddau sydd wedi'u dwyn.

  • CYFLEUSTERAU CYHOEDDUS – Anfon hysbysiad pan agorir cypyrddau badau achub, a allai fod yn ddefnyddiol os oes hanes o ymyrryd yn yr ardal.

  • GWYLIAU - Monitro'r defnydd o gloeon camlesi er mwyn deall llif traffig yn well.

  • CRONFEYDD NATUR - Casglu data ar ymweliadau â chuddfannau adar i wella dealltwriaeth o batrymau defnydd.

I ryw raddau, yr unig beth sy’n cyfyngu defnydd posib ar gyfer dewin agor:cau yw ein creadigrwydd. Er mwyn iddo weithio, mae'n rhaid i'r ateb gynnig gwerth i'r defnyddiwr, p'un a yw hynny'n ariannol, lleihau risg, gwella effeithlonrwydd, gwell data i wneud penderfyniadau doethach neu dawelwch meddwl.

Ac iddo weithio, mae angen i ddatrysiad dewin agor:cau fod o fewn ardal porth LoRaWAN. Os nad ydych yn siŵr o lefel cyswllt yn eich ardal, siaradwch â ni a gallwn eich cefnogi i ganfod hyn.

Atgoffwch fi ym mis Mawrth 2022 i ysgrifennu blog o dan yr un pennawd, dim ond i weld fel mater o ddiddordeb faint o'r defnyddiau uchod sydd wedi dod i'r fei.

Geraint

Previous
Previous

Felly beth neu pwy yw LoRaWAN?