angerdd. profiad. arloesedd.

Sefydlwyd dewin.tech gan ddau Ymgynghorydd busnes: Meinir Lloyd Jones a Geraint Hughes. Gyda chefndir amrywiol a dylanwad o fewn y sectorau menter a bwyd-amaeth, yn enwedig gan Geraint, mae’r ddau yn angerddol dros ddatblygu technoleg dewin.tech ym mhob rhan o fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Mae gan Meinir brofiad eang yn y sector addysg, ac yn ddiwedddar wedi ehangu hyn mewn ymgynhoriad busnes drwy lafan.cymru. Erbyn hyn, mae Meinir yn canolbwyntio ar greu gwerth i fusnesau drwy gyflwyno datrysiadau cyfnewidiadol IoT a LoRaWAN.

Mae Geraint yn ymgynghorydd bwyd-amaeth a sefydlwyd Bwydydd Madryn yn 2012, yn cynnwys brandiau a nwyddau enwog fel Jones Crisps, Olew hâd rêp Blodyn Aur a Calon Lân.

Fel meddylwyr a newidwyr, mae Meinir a Geraint yn awyddus i gyflwyno technoleg canrif 21 i Gymru a thu hwnt, yn canolbwyntio ar y sectorau amaeth a chyhoeddus.