dewin mŵ

Mae Dewin Mŵ yn system synhwyro awtomatig sy'n cefnogi ffermwyr i fonitro ymddygiad buchod yn ystod y tymor llo. Mae'r system yn rhoi gwell ymwybyddiaeth i ffermwyr o les buchod a llo drwy app ffôn wrth wella effeithlonrwydd llafur ffermydd.

Mae dod a llo yn ddigwyddiad allweddol yn y calendr ffermio ac mae monitro cyflwr buwch yn barhaus yn dasg enfawr i ffermwyr. Gyda'r nod o ddarparu lloi a gwartheg byw ac iach, mae’r Dewin Mw yn system gymorth berffaith i ffermwyr drwy gydol y cyfnod llo. Mae ei allu i fonitro ymddygiad / cyflwr y gwartheg yn awtomatig drwy ddefnyddio systemau CCTV yn caniatáu’r ffermwyr gadw ar ben eu buchod o'u ffôn.

Mae Dewin Mŵ yn cael ei ddatblygu i fonitro agweddau eraill o ymddygiad gwartheg er mwyn helpu ffermwyr rheoli ei fuches. Bydd Dewin Mŵ hefyd yn gallu adnabod ymddygiad gofyn tarw a clofni.

Diolch i'w alluoedd prosesu lluniau drwy AI ac algorithmau cymhleth, gall y Dewin Mŵ adnabod gwrthrychau a gweithredoedd gwartheg drwy luniau neu fideos. Drwy ddosbarthiadau ymddygiadol ac algorithmau, bydd y system yn rhybuddio’r ffermwr yn gyflym unwaith y bydd y trothwy amlder symud wedi'i fodloni. Mae hyn yn galluogi'r ffermwr i adael ei buchod yng ngofal y Dewin Mŵ tra byddant yn gweithio yn rhywle arall ar y fferm.

Mae Dewin Mŵ mewn datblygiad diolch i gyllid gan Llywodraeth Cymru yn yr Hac Amaeth a drefnwyd gan M-Sparc ym mis Mawrth 2021.

Am fwy o wybodaeth ac i fod yn rhan o'r prosiect, cysylltwch â ni heddiw:

01758 701380

post@lafan.cymru